AC(4)2012(4) Papur 6 rhan 1

Dyddiad: Dydd Llun 14 Mai 2012
Amser:
    14:30 – 16:30
Lleoliad:
  Swyddfa’r Llywydd
Enw a rhif ffôn yr awdur:
Claire Clancy, est 8233

Adroddiad y Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn
Mai 2012

Braslun

1.0    Nod strategol – darparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf 2

2.0    Nod strategol – ymgysylltu â phobl Cymru 7

3.0    Nod strategol – hyrwyddo Cymru. 9

4.0    Nod strategol – defnyddio adnoddau’n ddoeth. 10

5.0    Adroddiad ariannol 13

6.0    Gwybodaeth ychwanegol 13

 

Rhestr o atodiadau

·    Atodiad: Rhyddid Gwybodaeth (Ionawr – Mawrth 2012)


 

Nodau Strategol Comisiwn y Cynulliad

1.0 Nod strategol – darparu cymorth strategol o’r radd flaenaf

1.1 Y wybodaeth ddiweddaraf am fusnes y Cynulliad

a.      Rhoddwyd adnoddau ychwanegol i’r Gwasanaeth Ymchwil i gryfhau’r gwasanaethau a gynigir o ran dadansoddi a chraffu ariannol. Dyma’r prif amcanion:

·         Hybu ac annog proses fwy o effeithiol o graffu ar ddeddfwriaeth a pholisïau’r Llywodraeth o safbwynt ariannol;

·         Paratoi papurau briffio’n ymwneud â meysydd allweddol sydd o ddiddordeb cyfredol a meithrin y gallu i gostio cynigion gwariant gwahanol;

·         Darparu rhagor o adnoddau ar gyfer costio Biliau Cynulliad i sicrhaumethodoleg fwy cadarn;

·         Gwella’r gwasanaeth ymholiadau o ran cwmpas a dyfnder y gwaith dadansoddi a gynigir;

·         Darparu papurau briffio sy’n dadansoddi meysydd allweddol yng ngwariant y Llywodraeth a rhagor o wybodaeth a gwaith dadansoddi yn ymwneud â’r economi/y farchnad lafur.

1.2     Pwyllgorau

a.      Mae’r Pwyllgorau hefyd wedi cynyddu nifer yr arbenigwyr allanol y maent yn eu defnyddio, a phenodwyd mwy o gynghorwyr arbenigol y tymor diwethaf nag yn ystod unrhyw flwyddyn flaenorol. Daw’r arbenigwyr hyn o wahanol feysydd, gan gynnwys y byd academaidd a sefydliadau arbenigol: 

·         Penododd y Pwyllgor Amgylched a Chynaliadwyedd ddau gynghorwr i’w helpu yn eu hymchwiliad i’r achos busnes dros un corff amgylcheddol;

·         Penododd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc arbenigwr i’w cynorthwyo gyda’u gwaith ymgysylltu ar gyfer eu hymchwiliad i fabwysiadu;

·         Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn defnyddio tri arbenigwr ar gyfer eu hymchwiliad eang i ofal preswyl. Maent yn darparu gwybodaeth a sgiliau dadansoddi arbenigol ac maent hefyd yn hwyluso cysylltiadau â phobl na fyddent fel arfer yn cyfrannu at waith y pwyllgorau;

·         Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi penodi cynghorwr arbenigol ar gyfer ei ymchwiliad i Gyllid datganoledig: pwerau benthyg a chyfalaf.

 

b.     Mae’r Pwyllgor Busnes wedi adolygu gweithdrefn balot y Cwestiynau Llafar yn ddiweddar.  Roedd aelodau’r Pwyllgor yn pryderu am y ffaith nad yw 15 o gwestiynau’n cael eu cyflwyno gan yr 20 Aelod a ddewiswyd yn y balot, a hynny’n weddol reolaidd. Mae yn wir yn achos yr holl Weinidogion, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad. Cytunwyd i beidio â newid y weithdrefn ar gyfer Gweinidogion ar hyn o bryd, ond i drafod y mater gyda’r Aelodau yn eu grwpiau ac i barhau i adolygu’r sefyllfa.   

 

c.      Cytunwyd fodd bynnag, i adolygu’r weithdrefn ar gyfer cyflwyno cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad. Cytunwyd i ddileu’r angen i gynnal balot cychwynnol ar gyfer cwestiynau ac i ddychwelyd i’r hen drefn a oedd yn caniatáu i unrhyw Aelodau gyflwyno cwestiwn (gan ddewis 15 ar hap). Byddai hyn yn cael gwared ar yr angen canfyddedig i’r Aelodau hynny sy’n llwyddo yn y balot gyflwyno cwestiwn ac i roi mwy o gyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau llafar.

 

d.     Bydd y Pwyllgor Busnes yn cynnig newid y Rheolau Sefydlog, yn y Cyfarfod Llawn, cyn y cylch nesaf o gwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Comisiwn.

1.3     Y Bwrdd Taliadau

Aros dros nos

a.      Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 23 Mawrth. Trafodwyd a oedd y trefniadau presennol i ganiatáu i Aelodau aros dros nos os oedd eu prif gartref yn yr ardal fewnol.  Daeth y Bwrdd i’r casgliad bod y dystiolaeth yn dangos bod angen caniatáu i’r Aelodau hynny a oedd â’u prif gartref yn etholaethau Gŵyr, Gorllewin Abertawe, Dwyrain Abertawe a Chastell-nedd aros dros nos yn amlach. Roedd y dystiolaeth hefyd yn dangos mai anaml iawn roedd Aelodau o Ganol De Cymru a Dwyrain De Cymru yn aros dros dro ac nad oedd mwyafrif yr Aelodau a oedd yn byw yn yr ardaloedd hyn wedi aros dros nos o gwbl.

b.     Mae’r Bwrdd wedi ysgrifennu at yr holl Aelodau yn gofyn am eu sylwadau ar y newidiadau arfaethedig a ganlyn:

·         Cynyddu nifer y nosweithiau y gall Aelodau aros dros nos os yw eu prif gartref yn etholaethau Gŵyr, Gorllewin Abertawe, Dwyrain Abertawe a Chastell-nedd. Byddent yn cael aros tua 36 noson bob blwyddyn gan ganiatáu iddynt aros o leiaf unwaith bob wythnos pan fydd y Cynulliad yn eistedd.

·         Gan fod yr Aelodau hynny sy’n byw yn etholaethau eraill yr ardal fewnol yn aros mor anaml dros nos yng Nghaerdydd, bwriedir gostwng nifer y nosweithiau y cânt aros dros nos i 15 bob blwyddyn.

·         Yn unol â chyllidebau eraill ar gyfer llety, caiff y gyllideb sydd ar gael i Aelodau’r ardal fewnol aros dros nos yng Nghaerdydd ei mynegi fel swm ariannol yn hytrach na fel nifer y nosweithiau y cânt aros dros nos. Byddai hyn yn caniatáu i’r Aelodau wario’r swm yn hyblyg i fodloni’u hanghenion ar unrhyw fath o lety hyd at uchafswm o £95 y noson. Byddai’r lwfans cynhaliaeth dros nos, sef £20, yn parhau, yn ogystal â’r gyllideb hon.  £3,420 fyddai’r swm blynyddol arfaethedig ar gyfer Aelodau sydd â’u prif gartref yng Ngŵyr, Gorllewin Abertawe Dwyrain Abertawe a Chastell-nedd, a £1,425 fyddai’r swm arfaethedig ar gyfer Aelodau sydd â’u prif gartref yn etholaethau eraill yr ardal fewnol.

c.      Oherwydd y pryderon a fynegwyd yn ymwneud â digwyddiadau annisgwyl mewn tywydd eithriadol,  cytunwyd hefyd i ganiatáu i’r Prif Weithredwr ystyried ceisiadau ychwanegol i aros dros nos o dan amgylchiadau o’r fath. 

d.     Mae angen anfon sylwadau erbyn 17 Mai. Bydd y Bwrdd yn penderfynu’n derfynol ynghylch y mater hwn yn ei gyfarfod ar 22 Mehefin.


 

Trefniadau ar gyfer staff cymorth yr Aelodau

a.      Mae’r Bwrdd wedi ymrwymo i adolygu cyflogau a’r trefniadau ar gyfer staff cymorth erbyn mis Ebrill 2013. Yn dilyn trafodaethau yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, cytunodd y Bwrdd fod y gwaith hwn yn debygol o gynnwys proses fwy cynhwysfawr o werthuso disgrifiadau swydd a chyfrifoldebau staff cymorth ac ystyried pa mor briodol yw’r bandiau cyflog a’r graddfeydd. 

b.     Cytunodd y Bwrdd y dylai tâl staff cymorth yr Aelodau adlewyrchu gwerth y gwaith y maent yn ei wneud, ac yn unol â chymaryddion priodol eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru.

c.      Roedd y Bwrdd yn cydnabod bod cyflogau staff cymorth yn allweddol pan fydd Aelodau’n ceisio denu ymgeiswyr o’r safon briodol i lenwi swyddi gwag er mwyn cynnal safon y gwasanaeth a ddarperir iddynt a chynyddu gallu strategol y Cynulliad.

d.     Cytunodd y Bwrdd hefyd y dylai’r adolygiad ystyried y cyd-destun gwleidyddol ac economaidd ehangach.

e.      Mae Cadeirydd y Bwrdd wedi ysgrifennu at Arweinwyr y Pleidiau, cynrychiolwyr staff cymorth yr Aelodau ac Angela Burns AC (sef y Comisiynydd Cynulliad perthnasol) yn nodi bod y Bwrdd yn bwriadu ymgynghori ac ymgysylltu â’r rhai y bydd ei benderfyniadau’n effeithio arnynt. 

Pensiynau’r Aelodau

a.      Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer ei adolygiad o bensiynau’r Aelodau, mae Bwrdd wedi penodi Pricewaterhouse Coopers i gyflwyno seminar pensiynau a chynhyrchu adroddiad, a fydd yn sail i ymgynghoriad y Bwrdd yn Hydref 2012.

b.     Cynhelir y seminar ar 21 Mehefin. Caiff cynrychiolwyr o Ymddiriedolwyr y Cynllun Pensiwn eu gwahodd i fod yn bresennol. 

1.4     Gwella’r gwasanaeth TGCh

Rhaglen i wella gwasanaethau’n barhaus (CSIP)

a.      Mae’r rhaglen gwella gwasanaethau’n barhaus (CSIP) ar waith yn awr ers tri mis a gwelwyd gwelliannau sylweddol eisoes, er bod llawer o’r rhain yn ymwneud â newidiadau y tu ôl i’r lleni yn y modd y mae Atos yn darparu’n gwasanaeth. Dyma sut y mae’r gwasanaeth wedi gwella:

·         Mae’r holl swyddfeydd etholaethol wedi troslgwyddo naill i rwydwaith newydd BT neu, os nad oedd hynny’n bosibl, (fel arfer pan nad yw Cyfnewidfa Leol BT yn gydnaws â (21CN), i seilwaith gwell. Cwblhawyd y gwaith hwn chwe wythnos yn gynt na’r disgwyl.

·          Mae’r holl swyddfeydd etholaethol wedi trosglwyddo i wasanaeth VIP BT, sy’n gallu ymateb yn gynt i unrhyw broblemau sy’n codi.  

 

·         Ymwelwyd â 62 o swyddfeydd etholaethol i archwilio cyflwr y systemau TGCh, i’w gwella os oedd modd ac i gasglu gwybodaeth am unrhyw broblemau y mae angen gwaith mwy trylwyr i’w datrys. 

 

·         Mae staff TGCh wedi cyfarfod â’r rhan fwyaf o Aelodau’r Cynulliad i nodi unrhyw broblemau o bwys, mae gwybodaeth yn cael ei chasglu a chaiff ei defnyddio fel sail i’r broses o gynllunio gwaith, fel cysylltiad diwifr, amrywiaeth ehangach o ddyfeisiau  ar gyfer defnyddwyr a BYOD.

 

Gwaith achos

a.      Dyma’r sefyllfa ddiweddaraf yng nghyswllt gwella system Gwaith Achos y Cynulliad:

·         Cwblhawyd amgylchedd profi’r Cynulliad ac aethpwyd ati i brofi’r system yn ystod y cyfnod yn arwain ar benwythnos yr Ŵyl Banc.

·         Dechreuir profi’r system defnyddwyr yr wythnos ar ôl yr Ŵyl Banc a bydd yn parhau am bythefnos ac, os bydd yn llwyddiannus, caiff y gwaith ei gwblhau erbyn diwedd mis Mai.

·         Mae arwyddion cynnar ar ôl cynnal profion ar y system yn ffafriol o ran datrys problemau a chynyddu defnyddioldeb.


Gwasanaethau TGCh a’r Strategaeth TGCh yn y dyfodol

 

a.      Mae’r gwaith o baratoi a gwerthuso’r posibiliadau ar gyfer gwasanaethau TGCh yn y dyfodol yn mynd rhagddo. Mae tîm prosiect yn cael ei sefydlu i ymgymryd â’r gwaith gwerthuso a’r gwaith o baratoi achos busnes, a’r nod yw cwblhau’r gwaith o ddadansoddi’r dewisiadau erbyn diwedd 2012. Rhaid cofio bod angen i’r Comisiwn roi gwybod i Atos erbyn 30 Ebrill 2013am yr hyn y mae’n bwriadu ei wneud.

b.     Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ffurfiol y bydd yn ymestyn Cytundeb Merlin, ar ôl cytuno ag Atos ar newidiadau sylweddol yn y gwasanaeth yn y dyfodol. Bydd nifer o’r newidiadau hyn yn fanteisiol i’r Comisiwn, gan gynnwys cyfraddau is ar gyfer prosiect, paratoi anfonebau ar wahân ar gyfer gwaith prosiect a gwaith gwella gwasanaethau craidd. Mae’r estyniad yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddewis ehangu’r gwasanaethau y mae’n eu darparu tan 2019.

c.      Ochr yn ochr â’r gwaith o ddadansoddi gwasanaethau yn y dyfodol, mae gwaith ar y gweill i ddatblygu strategaeth TGCh a Gwybodaeth ar gyfer y Cynulliad. Bydd angen cwblhau’r gwaith o greu gweledigaeth strategol cyn penderfynu ynghylch y gwasanaethau a ddarperir yn y dyfodol.  

 

2.0    Nod allweddol – ymgysylltu â phobl Cymru

2.1   Digwyddiadau

a.      01 Mawrth – I nodi dydd Gŵyl Dewi cynhaliodd y Llywydd dderbyniad yn y Senedd amser cinio. Y thema eleni oedd arddangos cynnyrch o Gymru. Bu Tîm Coginio Cymru a Chôr Meibion Cil-y-coed yn difyrru’r gwesteion a chafwyd cerddoriaeth gefndir hefyd gan delynores ifanc o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ymhlith y gwesteion roedd cynhyrchwyr o Gymru a’r cyfryngau bwyd arbenigol.

b.     8 Mawrth – Nodwyd Diwrnod Rhyngwladol y Merched eleni mewn partneriaeth â’r Sefydliad Materion Cymreig, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Sefydliad y Merched a’r Cyngor Prydeinig. Dechreuodd y diwrnod yn y Pierhead pan groesawodd y Llywydd bawb i gyfarfod bord gron dros frecwast, ac yna cynhaliwyd grwpiau trafod a gweithdai yn y Pierhead dan ofal Sefydliad y Merched cyn i Tori James, y Gymraes gyntaf, a’r ferch ieuengaf o Brydain, i ddringo mynydd Everest, draddodi ei haraith amser cinio. Roedd y rhaglen ddigwyddiadau ar agor i’r cyhoedd ac roedd wedi’i anelu’n benodol at ferched a oedd â diddordeb mewn bywyd cyhoeddus. 

c.      15 Mawrth – Cynhaliodd y Cynulliad ddigwyddiad Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yng Nghymru, a agorwyd gan Angela Burns fel Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad. Daeth tua 50 o bobl broffesiynol sy’n gweithio ym maes cyllid yng Nghymru i glywed am waith y Cynlluniad, y Pwyllgorau Cyllid a Chyfrifon Cyhoeddus, y cysylltiadau â gwaith Swyddfa Archwilio Cymru, a’r cynlluniau arloesol ar gyfer Canolfan Lywodraethu Cymru a’i leoliad newydd yn y Pierhead. Cafwyd ymateb da iawn, gan gynnwys y sylw,   “we all know what the Assembly does generally, but it was really helpful to understand in greater detail what that means in practice”.

d.     26 Mawrth –Ymwelodd Archesgob Caergaint fel rhan o’i daith flynyddol o amgylch Cymru. Dechreuodd y rhaglen gyda digwyddiad yn Siambr Hywel, a drefnwyd mewn partneriaeth â CEWC Cymru, i ddod â phobl ifanc ynghyd i drafod pynciau amrywiol. Yn dilyn hyn, cafwyd darlith gan yr Archesgob, dan gadeiryddiaeth Betsan Powys. Teitl y ddarlith oedd For the Common Good: what is it that turns a society into a community?Roedd y digwyddiad ar agor i’r cyhoedd.

e.      11 Ebrill – daeth Helen Clark, Gweinyddwr Rhaglen Datblygu’r Cenhedloedd Unedig a chyn Brif Weinidog Seland Newydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a thraddododd ddarlith yn y Pierhead fel rhan o Sesiynau’r Pierhead. Cafwyd barn Mrs Clark am y modd y mae’r broses o rymuso merched yn creu cymdeithasu democrataidd newydd a llwyddiannus, cyn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb. Roedd y digwyddiad ar agor i’r cyhoedd.

3.0    Nod strategol – hyrwyddo Cymru

3.1     Ym mis Mawrth, hwylusodd Steven O’Donoghue, Pennaeth Adnoddau’r Cynulliad, weithdy cynllunio strategol gydag Adran Cyfrifyddiaeth a Marchnadoedd Ariannol Prifysgol Derby. Yn ogystal â bod yn gyfle i hyrwyddo delwedd gadarnhaol o Gymru a’r Cynulliad, roedd hefyd yn fuddiol o ran meithrin dealltwriaeth o’r materion strategol sy’n wynebu sefydliadau eraill, sef Prifysgol yn yr achos hwn.

3.2     Y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rhyngwladol

a.      22 Chwefror – cynhaliwyd cyfarfod preifat rhwng dirprwyaeth Sinn Féin, dan arweiniad Raymond McCartney MLA a’r Llywydd.

b.     1 Mawrth – daeth dirprwyaeth o Senedd Fflandrys, dan arweiniad y Llefarydd Jan Peumans i ymweld â’r Cynulliad i ddysgu rhagor am y broses ddatganoli yn y DU ac am flaenoriaethau’r Cynulliad.  

c.      6 Mawrth – daeth Syr Alan Haselhurst AS, Cadeirydd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad i ymweld â’r Cynulliad a chynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd â Chadeirydd Cangen y Gymdeithas, y Pwyllgor Gweithredol a chyfarfod preifat â’r Llywydd.

d.     21 Mawrth – croesawodd y Llywydd fyfyrwyr o Gymru a myfyrwyr rhyngwladol i’r Cynulliad lle cynhaliwyd dadl ar thema’r Gymanwlad eleni, sef ‘Cysylltu Diwylliannau’ i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad. 

e.      Cafodd y canlynol gyfarfod preifat â’r Llywydd yn ystod eu hymweliad cyntaf â Chymru:

f.       15 Mawrth – Ei Ardderchogrwydd Mr T Jasudasen Uchel Gomisiynydd Singapôr

g.     21 Mawrth - Ei Ardderchogrwydd Volodymyr Khandogiy Llysgennad Ukrain

h.     26 Mawrth – Ei Ardderchogrwydd Mr Daniel Taub Llysgennad Israel

i.       27 Mawrth– Ei Ardderchogrwydd Mr Roberto Jaguaribe Llysgennad Brasil

j.       25 Ebrill – Ei Ardderchogrwydd Werner Matías Romero Llyegennad El Salvador

3.3     Y Swyddfa Ewropeaidd

a.      Bu Rhodri Glyn Thomas AC, yn ei rôl fel cynrychiolydd y Cynulliad ar Bwyllgor y Rhanbarthau, yn cymryd rhan yn y canlynol: cyfarfod llawn y Pwyllgor ar 15-16 Chwefror; seminar ar 22 Mawrth ar y Fframwaith Ariannol Aml-flwydd 2014-2020 ar gyfer seneddwyr cenedlaethol ledled yr UE; ac Uwchgynhadledd Dinasoedd a Rhanbarthau’r UE yn Copenhagen, gyda Christine Chapman AC ar 22-23 Mawrth, fel rhan o Lywyddiaeth Denmarc.

b.     23 Ebrill – ymwelodd Ken Skates AC â Brwsel i gael gwybodaeth gefndir am bolisïau a chyllid yr UE. Cyfarfu â swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd (Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Polisïau Rhanbarthol a Chyfarwyddiaeth Gyffredinol Ymchwil), Cynrychiolaeth Barhaol y DU yn yr UE (UKREP), cynrychiolwyr Tŷ Cymru, rhwydweithiau’r UE (busnes ac ymchwil) a Derek Vaughan, ASE Cymru.

3.4     Eraill

12-13 Chwefror – teithiodd Christine Chapman AC, Julie Morgan AC a Keith Davies AC i Helsinki i ddarganfod ffeithiau am y modd y mae’r Ffindir yn gorfodi’r gwaharddiad ar gosbi plant yn gorfforol.

 


 

4.0    Nod strategol – defnyddio adnoddau’n ddoeth

4.1     Staffio

a.      Mae Dave Tosh wedi ymgymryd â’i swydd fel Cyfarwyddwr TGCh. Bu’n gweithio gynt yng Nghyngor Dinas a Sir Abertawe. Connie Cockburn yw Pennaeth Ystadau a Blaen y Tŷ yn awr.

4.2      Adfer y Pierhead

a.      Mae cam nesaf y gwaith o adfer y Pierhead ar y gweill. Bydd sgaffaldiau wedi’u gosod ar yr ochr sy’n wynebu’r basn hirgrwn am rai wythnosau. Mae’n rhaid gwneud y gwaith yn rhannol oherwydd rhesymau cadwraeth ond hefyd oherwydd materion diogelwch. Y gost ddisgwyliedig ar gyfer y cam hwn o’r gwaith yw oddeutu £75k. Caiff dwy wal olaf y Pierhead eu cwblhau gyda’i gilydd, a’r bwriad ar hyn o bryd yw gwneud hynny yn 2013, ond rydym yn ystyried a fyddai modd gwneud y gwaith eleni. Yn ystod cam cyntaf y gwaith o adfer yr adeilad, datgelwyd problem yn ymwneud â thrawst dros fynedfa flaen y Pierhead. Bydd angen gosod sgaffald bychan am gyfnod byr i ddelio â’r broblem hon. Caiff y gwaith ei wneud cyn gynted ag y bydd yn gyfleus.

4.3     Caffi a siop y Senedd

a.      Ers agor y cyfleuster newydd, mae enillion y siop a’r caffi wedi cynyddu’n arw. Yn wir, mae’r enillion wedi dyblu bron o’u cymharu â’r un adeg y llynedd, er gwaethaf y tywydd gwlyb. Bydd Geraint Huxtable a Miranda Parker yn gweithio’n gyson i wella’r stoc a’r modd y’i cyflwynir. Mae  Miranda yn gofyn am syniadau newydd gan yr Aelodau a chyrff eraill, ac yn eu rhoi ar waith.

4.4     Strategaeth Pobl Cynulliad Cenedlaethol Cymru

a.      Cwblhawyd strategaeth pobl ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad. Mae’r strategaeth yn cynnig ffocws ar gyfer ein polisïau a’n gweithdrefnau ac mae wedi’i chynllunio i gyflawni’r nod o ddarparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf. Caiff copïau o’r strategaeth eu dosbarthu i’r Comisiynwyr yn fuan, cyn ei lansio i’r staff i gyd-fynd â Diwrnod Dysgu yn y Gwaith ym mis Mai. 

4.5     Cynllun diswyddo

a.      Lansiwyd Cynllun Diswyddo Gwirfoddol ym mis Ionawr 2012. Nod y cynllun oedd sicrhau bod trefniadau a strwythur staffio’r Comisiwn yn caniatáu inni ddarparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf yn ystod y Pedwerydd Cynulliad drwy:

·            Ganiatáu i’r sefydliad ymateb i newidiadau yn ein hanghenion sgiliau;

·            Gwella effeithlonrwydd y gweithlu;

·            Hwyluso newid sefydliadol;

·            Sicrhau arbedion hirdymor lle bynnag y bo modd a/neu osgoi mynd i gostau ychwanegol wrth ymdopi â diffyg sgiliau.

b.     Gwahoddwyd staff y Cynulliad i wneud cais i adael eu swyddi a bu’r Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol a Chyfarwyddwr Busnes y Cynulliad yn ystyried y ceisiadau. Aseswyd pob cais yn ôl y meini prawf y cytunwyd arnynt ac a rannwyd eisoes ag Ochr yr Undebau Llafur, ac a gyhoeddwyd ar fewnrwyd y staff.

c.      Cafodd y ceisiadau eu hasesu’n drylwyr ac yn wrthrychol a hynny’n ôl y meini prawf y cytunwyd arnynt a gwaith costio manwl. Aelodau’r panel oedd Claire Clancy, Ian Summers (Cynghorydd Cyllid a Llywodraethu) a Mair Barnes (Cynghorwr Annibynnol i’r Comisiwn). Roedd gan staff hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad ac aelodau’r Panel Apêl oedd Keith Bush (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Prif Gynghorwr Cyfreithiol) a Tony Morgan (Cadeirydd Pwyllgor Taliadau Comisiwn y Cynulliad).

d.     At ei gilydd, cafwyd cais gan 19 o aelodau staff a chymeradwywyd 16 ohonynt. Mae’r broses yn awr wedi’i chwblhau ac mae pob aelod o staff wedi cael gwybod am y penderfyniad ac yn paratoi i adael ar ddiwedd eu cyfnod o rybudd, sef 30 Mehefin 2012 yn achos y rhan fwyaf ohonynt. 

e.      Cyfanswm cost y ceisiadau a gymeradwywyd yw £622,688, a bydd arbedion blynyddol o £ 304,734, sy’n golygu y bydd y cynllun wedi talu amdano’i hun ymhen oddeutu 25 o fisoedd. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn ystyried sut y byddwn yn gallu manteisio ar ganlyniadau’r cynllun i sicrhau bod ein hadnoddau o ran staff yn cyfateb i anghenion y Comisiwn a’r Pedwerydd Cynulliad.

4.3   Y Pwyllgor Taliadau

a.      Yn unol â’i rôl annibynnol o oruchwylio trefniadau rheoli perfformiad uwch staff, yn ei gyfarfod ar 19 Ebrill, ystyriodd y Pwyllgor Taliadau adroddiadau gan y Llywydd yn ymwneud â pherfformiad y Prif Weithredwr a chan y Prif Weithredwr  yn ymwneud â pherfformiad y Cyfarwyddwyr. Cadarnhaodd y Pwyllgor hefyd adroddiad blynyddol draft i’r Comisiwn yn crynhoi ei waith y llynedd. Hefyd, bu’r Pwyllgor yn adolygu ei gylch gorchwyl i sicrhau ei fod yn dal yn addas i’r diben. Bydd y papurau hyn yn cael eu trafod gan y Comisiwn yn ei gyfarfod ym mis Mehefin.

5.0    Adroddiad ariannol

5.1     Ar ddiwedd 2011-12 roedd tanwariant o £1.6m o’i gymhar â chyllideb o £47.022m at ei gilydd. Fel y rhagwelwyd, mae tanwariant Gwasanaethau’r Cynulliad (£567k) o fewn y targed corfforaethol o 2%.  Mae’r addasiadau terfynol ar ddiwedd y flwyddyn yn mynd rhagddynt ac rydym yn rhagweld y bydd y sefyllfa derfynol yn gostwng i 1.5%, sef tanwariant o lai na £500k.  Mae’r gyllideb o £14.694m ar gyfer hawliadau a chyflogau Aelodau’r Cynulliad yn dangos tanwariant o lai na £1m.  Byddwn yn cyflwyno Cyfrifon Blynyddol y Comisiwn a’r Cynllun Pensiwn i Swyddfa Archwilio Cymru.

5.2     Bydd y diweddariad nesaf i’r Comisiynwyr yn cynnwys y wybodaeth ariannol ddiweddaraf ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13.

5.3     Mae’r gwaith o baratoi cyllideb 2013-14 yn mynd rhagddo wedi i’r Comisiynwyr gytuno i gyflwyno’r strategaeth o fewn cyllideb o  £49.45m. Dyma’r ffigur a gyhoeddwyd yng nghyllideb 2012-13. Mae’n adlewyrchu cyngor y Pwyllgor Cyllid i wella gwasanaethau dros y ddwy neu dair blynedd nesaf.

6.0    Gwybodaeth ychwanegol

6.1     Mae rhestr o’r wybodaeth a ryddhawyd ers yr adroddiad diwethaf o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ynghlwm yn Atodiad A. Fel y cytunwyd, mae’r rhestr yn cynnwys manylion y wybodaeth na ryddhawyd oherwydd eithriadau yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. O hyn ymlaen, bydd yr adroddiadau’n cynnwys yr amser a gymerodd i ymdrin â’r ceisiadau. Mae’r datgeliad llawn ar gael i’r Comisiynwyr os ydynt yn dymuno’i weld.  


Gwybodaeth a ryddhawyd yn dilyn ceisiadau i weld gwybodaeth (Ionawr – Mawrth 2012)

·         Gwybodaeth a chostau’n ymwneud ag ymgynghorwyr y mae’r Cynulliad yn eu defnyddio

·         Gwybodaeth am ddefnyddio’r gronfa ymgysylltu

·         Cost y Gwasanaeth Cyfieithu

·         Staff a chostau pob maes gwasanaeth y Cynulliad

·         Gwybodaeth am siaradwyr Cymraeg yn y Cynulliad

·         Gwybodaeth a chostau’n ymwneud â’r feithrinfa

·         Costau’n ymwneud â’r Bwrdd Taliadau

·         Gwybodaeth am swyddfeydd Aelodau’r Cynulliad a’r dodrefn a ddarperir  

·         Costau a manylion y cyrsiau hyfforddi y bu staff y Cynulliad yn eu dilyn

·         Gwybodaeth am y modd y mae’r Cynulliad yn defnyddio staff a chytundebau asiantaeth  

·         Gwybodaeth am staff y Cynulliad a’r isafswm cyflog

·         Manylion gohebiaeth rhwng y Cynulliad ac AWEMA

·         Nid oedd gwybodaeth ar gael – cyflogaeth flaenorol unigolyn

·         Nid oedd gwybodaeth ar gael – gwybodaeth am daliadau bonws i staff y Comisiwn

·         Nid oedd gwybodaeth ar gael – manylion cytundebau i ddarparu gwrthrychau cosmetig ar ystâd y Cynulliad

·         Nid oedd gwybodaeth ar gael – manylion cyfarfodydd rhwng Aelodau a Gweinidogion y Cynulliad

 

 

Gwybodaeth na ryddhawyd yn dilyn ceisiadau i weld gwybodaeth (Ionawr - Mawrth 2012)

·         Manylion ceisiadau gan Aelodau am dreuliau a wrthodwyd gan y Cynulliad Adran 36 – gwybodaeth sydd wedi’i eithrio ar sail cynnal materion cyhoeddus yn effeithiol

·         Gohebiaeth a oedd yn cynnwys data personol sensitif am un o’r Aelodau Adran 40 – gwybodaeth sydd wedi’i heithrio gan mai data personol sydd wedi’i eithrio